Beth fyddai egwyddorion pedagogaidd yn eich ysgol freuddwydiol chi?
Yn ddiweddar mae yna llawer o newidiadau o fewn y sector
addysg gyda’r gwricwlwm newydd yn ddechrau gael ei gyflwyno yng Nghymru. Mae’r
gwricwlwm newydd yma wedi gael ei gynllunio i cyd-fynd a’r 12 egwyddor
pedagogaidd Donaldson sydd yw weld yn y llun canlynol:
Daeth y newid yma ar ôl i’r adolygiad ‘Successful futures’ Donaldson (2015)
gael ei cyhoeddi, yn yr adolygiad wnaeth Donaldson gweld broblemau yn y
cwricwlwm ar yr amser a ddod i’r casgliad fod angen newid i’r cwricwlwm er mwyn
i blant fod yn llwyddiannus yn byd sydd yn newid mor gyflym.
Allan o’r egwyddorion Donaldson, yr un sydd yn sefyll allan
i fi yw ‘encourage
collaboration’, rydw i’n teimlo fod ysgolion wedi hybu cydweithio am
blynyddoedd, wnes i gael fy ddysgu i cydweithio yn yr
ysgol
ac roedd gwaith grŵp yn peth bwysig iawn. Felly allan o’r 12 egwyddor rydw i’n
credu fod y egwyddor yma ddim yn unrhyw beth newydd mae ysgolion ddim yn gwneud
yn barod, yn yr hen cwricwlwm roedd rhaid i ysgolion hybu plant i arddangos
parch a hoffter i blant eraill, oedolion ac ei amgylchedd (Llywodraeth Cymru,
2015), sydd yn debyg iawn i’r egwyddor ‘encourage collaboration’. Rydw i’n
falch ei fod wedi cadw y egwyddor yma oherwydd rydw i’n credu ei fod yn un
bwysig iawn nid dim ond ar gyfer plant ond amdano oedolion, ddylai pawb gael ei
ddysgu i cydweithio ac i ddangos parch i pawb. Yn ôl Proud to be primary (2018)
‘’Teaching respect in the classroom helps students succeed’’, maent yn awgrymu
fod unwaith fod plentyn yn gallu trin eraill gyda parch ac ymateb i gyfeiriad a
chyfarwyddyd mewn ffordd positif maent yn fwy tueddol o lwyddo yn academaidd.
Er fod cydweithio a gwaith grŵp yn hynod o bwysig dwi’n
hapus hefyd i weld yr egwyddor ‘encourage learners to take responsibilty for
their own learning’ sydd yn hybu gwaith annibynnol. Yn fy marn i fydd hybu
blant i cymryd cyfrifoldeb am ei addysg yn gwneud i nhw fwynhau ysgol fwy ac
fyddent yn gwerthfawrogi ei addysg fwy. Yn ôl Kumon (2018) wrth i plant cymryd
cyfrifoldeb am ei addysg maent yn ddarganfod ei cryfderau a gwendidau ar ben ei
hunain sydd yn rhan fawr o ddatblygiad plentyn.
Egwyddor arall sydd i’w weld yn egwyddorion Donaldson (2015)
a’r cwricwlwm hen yw’r egwyddor ‘promote problem solving, creative and critical
thinking’, yn yr hen gwricwlwm roedd rhaid i ysgolion helpu blant ddatblygu ei
feddwl trwy’r broses o cynllunio, ddatblygu a myfyrio (Llywodraeth Cymru,
2015). Mae’r egwyddor yma yn bwysig ar gyfer ddatblygiad plentyn, heb y sgil o
ddatrys problemau fydd plant yn gweld ysgol a bywyd nes ymlaen yn y byd gwaith
yn anodd iawn. Yn ôl Career Builder (2017) mae sgiliau ddatrys broblemau yn
bwysig i blant ddatblygu er mwyn llwydo yn y byd gwaith oherwydd mae pob swydd
yn angen y sgil yn rhyw ffordd, ac trwy gael y sgil fyddwch yn gael mantais
dros bobl sydd heb y sgil.
Er
fy mod yn cytuno gyda egwyddorion Donaldson (2015) fyddaf yn awgrymu cynnwys
rhai ychwanegol, fyddaf yn gynnwys egwyddor sydd yn gwneud yn siŵr fod
anghenion pob ddysgwr yn gael ei cymryd fewn i ystyried er mwyn i bob plentyn
gael yr un cyfleoedd a profiadau yn yr ysgol. Roedd ymchwil gan Dyson et al. (2004) amdano cynhwysiad a
chyflawniad disgyblion wedi ddarganfod rhai tystiolaeth fod cynhwysiad yn gallu
gael effaith positif arno ddatblygiad plant yn enwedig arno sgiliau cymdeithasu
a dealltwriaeth. Yn yr hen cwricwlwm roedd adran yn amlinellu beth roedd rhaid
i ysgolion gwneud er mwyn i fob plentyn gael ei gynnwys, yn y ddogfen
‘curriculum for Wales’ (Llywodraeth Cymru, 2015) mae’n ddweud fod rhaid i
ysgolion ‘’offer opportunities for all children to achieve their full potential
in preparation for further learning and life.’’, yn fy marn i ddylai y credoau
yma gael eu ymgorffori i fewn i egwyddor i pob ysgol ddefnyddio.
I ddod i casgliad, rydw i’n hoffi pob un o’r 12 egwyddor
Donaldson (2015) ac fyddaf yn gynnwys pob un ohono nhw er mwyn greu cwricwlwm
ddelfrydol i ysgol. Er fy mod i’n gredu fod rhai yn fwy bwysig na eraill fyddaf
ddal i ddefnyddio pob un oherwydd heb pob un o’r 12 egwyddor ni fydd pob ardal
o addysg wedi ei gorchuddio. Yr unig beirniadaeth sydd gen i amdano’r egwyddorion
yw ei fod yn annelwig a gall fod yn fwy fanwl.
- Beta.gov.wales. (2018). Curriculum for Wales. [online] Available at: https://beta.gov.wales/sites/default/files/publications/2018-02/foundation-phase-framework-revised-2015.pdf [Accessed 10 Dec. 2018].
- beta.gov.wales. (2018). New school curriculum: overview | beta.gov.wales. [online] Available at: https://beta.gov.wales/new-school-curriculum-overview [Accessed 10 Dec. 2018].
- Blog.mrstacey.org.uk. (2018). Sucessful Futures – The Donaldson Review into Curriculum and Assessment in Wales – blog.mrstacey.org.uk. [online] Available at: http://blog.mrstacey.org.uk/?p=987 [Accessed 10 Dec. 2018].
- Careerbuilder.com. (2018). What are problem-solving skills and why are they important? | CareerBuilder. [online] Available at: https://www.careerbuilder.com/advice/what-are-problemsolving-skills-and-why-are-they-important [Accessed 10 Dec. 2018].
- Dyson, A., Farrell, P., Polat, F. and Hutcheson, G. (2018). Inclusion and Pupil Achievement. [online] Webarchive.nationalarchives.gov.uk. Available at: https://webarchive.nationalarchives.gov.uk/20130402121316/https://www.education.gov.uk/publications/eOrderingDownload/RR578.pdf [Accessed 10 Dec. 2018].
- Kumon UK. (2018). Benefits of children taking responsibility for their own learning. [online] Available at: https://www.kumon.co.uk/blog/benefits-of-children-taking-responsibility-for-their-own-learning/ [Accessed 10 Dec. 2018].
- Proud to be Primary. (2018). Teaching Respect in the Modern Classroom. [online] Available at: https://proudtobeprimary.com/teaching-respect-in-the-classroom/ [Accessed 10 Dec. 2018].
Comments
Post a Comment